2014 Rhif 1706 (Cy. 171) (C. 72)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (Cychwyn) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r unig orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adran 3 o’r Ddeddf ar 1 Awst 2014 at ddiben gwneud rheoliadau.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym bob darpariaeth o’r Ddeddf sy’n weddill ar 1 Medi 2014, ac eithrio’r darpariaethau hynny yn y Ddeddf a gychwynnwyd pan gafodd y Cydsyniad Brenhinol yn unol ag adran 11 o’r Ddeddf.


2014 Rhif 1706 (Cy. 171) (C. 72)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (Cychwyn) 2014

Gwnaed                                 1  Gorffennaf 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 11(2) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014([1]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (Cychwyn) 2014.

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 2014

2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 3 o’r Ddeddf i rym at ddiben gwneud rheoliadau yw 1 Awst 2014.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2014

3. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym yw 1 Medi 2014—

(a)     adran 1 (benthyca a buddsoddi gan gorfforaethau addysg bellach);

(b)     adran 2 (offeryn ac erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg bellach);

(c)     adran 3 (diddymu corfforaethau addysg bellach) i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2;

(d)     adran 4 (sefydliadau dynodedig: offeryn ac erthyglau llywodraethu);

(e)     adran 5 (ymyrraeth gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â sefydliadau o fewn y sector addysg bellach);

(f)      adran 6 (diddymu dyletswyddau sefydliadau addysg bellach i gydymffurfio â chyfarwyddiadau);

(g)     adran 7 (diddymu pŵer i reoleiddio cyrsiau addysg uwch yn y sector addysg bellach);

(h)     adran 8 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

(i)      adran 10 (adolygu gweithrediad y Ddeddf).

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Un o Weinidogion Cymru

 

1 Gorffennaf 2014



([1])           2014 dccc 1.